9 Ionawr 2012

Regen/Euro/GDE/Post/NAW

 

01437 776174

Gwyn Evans

Gwyn.evans@pembrokeshire.gov.uk

 

 

 

Clerc y Pwyllgor Cyllid

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CAERDYDD

CF99 1NA

 

 

 

Annwyl Syr

 

GALWAD AM DYSTIOLAETH:

EFFEITHIOLRWYDD Y CRONFEYDD STRWYTHUROL EWROPEAIDD YNG NGHYMRU

 

Mae’n bleser gan Gyngor Sir Penfro ymateb i’r Ymchwiliad pwysig hwn gan Bwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae gan Gyngor Sir Penfro arbenigedd a phrofiad helaeth o ddefnyddio’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Mae wedi bod yn defnyddio’r Cronfeydd ers sefydlu’r Cyngor yn 1996, drwy raglenni fel Amcan 5b Cymru Wledig 1994-99, Amcan 1 2000-2006 ac, yn fwy diweddar, drwy raglenni Cydgyfeirio ERDF ac ESF 2007-13. Mae’r Cyngor hefyd wedi cyflawni prosiectau drwy raglenni trawsffiniol a thrawswladol sy’n cael eu hariannu gan y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Mae arbenigedd Cyngor Sir Penfro wedi’i ganoli yn ei Uned Ewropeaidd, tîm amlddisgyblaethol sy’n rhan o’i Adran Adfywio. Mae aelodau o’r tîm hwn wedi cyfrannu tuag at waith grwpiau a sefydlwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a Llywodraeth Cymru i oruchwylio agweddau ar raglenni’r Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru, gan gynnwys y Grŵp Cyflawni a Chydymffurfio, Grŵp Cynghori ar Werthuso Cymru Gyfan a Phwyllgorau Llywio prosiectau mawr sy’n cael eu hariannu â chyllid Cydgyfeirio, fel Cyrraedd y Nod. Mae’r tîm hefyd yn darparu’r gwasanaeth Tîm Ewropeaidd Arbenigol (Gofodol gynt) (SET) yn Sir Benfro, sy’n ceisio sicrhau bod y rhaglen Gydgyfeirio’n cael ei chyflawni’n effeithiol yn y sir. O ganlyniad, gall y Cyngor gynnig sylwadau deallus ar destun Ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid.

 

Rhoddir ymateb isod i bob cwestiwn a ofynnwyd gan y Pwyllgor, ynghyd â sylwadau pellach ar agweddau ar y rhaglenni y mae’n werth rhoi sylw penodol iddynt. Oni nodir yn wahanol, mae’r sylwadau a gynigir yma’n seiliedig ar ein profiad o’r rhaglenni Cydgyfeirio ERDF ac ESF yn hytrach na gwybodaeth am raglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol Dwyrain Cymru, nad ydynt yn weithredol yn Sir Benfro wrth gwrs.  Dylid nodi hefyd, oherwydd amserlen cyfarfodydd ein Cabinet, nad yw wedi bod yn bosibl eto i ni gael cefnogaeth ffurfiol y Cabinet i’r safbwyntiau a fynegir yma. 


 

I ba raddau rydych yn ystyried bod y Rhaglenni Cydgyfeiriant a’r Rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2007 a 2013 wedi cyflawni – neu yn cyflawni – yr amcanion ar eu cyfer?

Fel mae’r enw’n awgrymu, bwriad y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yw mynd i’r afael â gwendidau strwythurol, h.y. hirdymor, yn economïau rhanbarthau Ewrop. O ganlyniad, ni fyddai’n deg disgwyl i’r rhaglenni fod wedi cyflawni’r amcanion bwriadedig yn barod erbyn dechrau 2012. Wedi’r cyfan, ni fydd y prosiectau wedi cael eu cwblhau tan ganol 2015 o leiaf, ac mae’n bosibl na fydd effaith y rhaglenni i’w deimlo’n llawn tan ar ôl hynny. Fodd bynnag, credwn fod lle i fod yn optimistaidd, ar y cyfan, ac y bydd y rhaglenni Cydgyfeirio ERDF ac ESF yn cyflawni’r targedau a osodwyd.[1] Mae’r optimistiaeth hon yn seiliedig ar berfformiad y rhaglen hyd yn hyn, yn unol â’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni yn Rhagfyr 2011. Yn ein barn ni, lle mae dangosyddion canlyniadau’n ymddangos yn isel ar hyn o bryd (e.e. swyddi gros a grëwyd) mae hynny oherwydd arafwch y broses adrodd, yn hytrach na methiant i gyflawni,[2] a chanfyddiadau gwerthusiadau a gomisiynwyd gan WEFO neu bartïon eraill.

 

Mae angen bod yn ofalus yma: nid yw cyflawni targedau’n golygu’r un peth â chyflawni amcanion. Nodir amcanion y rhaglen Gydgyfeirio ERDF ym mharagraff 3.13 yn y Rhaglen Weithredol a rhai’r rhaglen Gydgyfeirio ESF ym mharagraff 3.14 yn y ddogfen honno. Er bod lle da i gredu y bydd sylw’n cael ei roi i bob agwedd ar yr amcanion hyn, i ryw raddau o leiaf, yn ein barn ni, ni fydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn diwedd y rhaglenni presennol, a bydd angen rhagor o adnoddau o hyd ar gyfer pob un.  

 

Er enghraifft, un o amcanion y rhaglen ERDF yw “sicrhau bod gan y rhanbarth y seilwaith ffisegol sydd ei angen i ddatblygu economi fodern a chystadleuol”. Mae rhai camau pwysig wedi’u cymryd yn y cyswllt hwn, ond bydd Sir Benfro’n dal heb y seilwaith sy’n hollbwysig i unrhyw “economi fodern a chystadleuol”, gan gynnwys band eang a chysylltiadau trafnidiaeth effeithiol.  

 

Rydym wedi buddsoddi llawer er mwyn datblygu sgiliau ein pobl ifanc, ac er y bydd angen buddsoddi rhagor eto, dylai’n buddsoddiad yn y genhedlaeth bresennol helpu i sicrhau bod gan weithlu’r dyfodol well sgiliau na’u rhagflaenwyr.  

 

Nid ydym mor argyhoeddedig y bydd buddsoddiad yr ESF er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus (er nad yw’n fawr iawn) yn dwyn ffrwyth yn yr hirdymor. Ar adeg o ansicrwydd ynglŷn â chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ymddengys i ni fod bygythiad i roi’r gorau i gysoni cydweithredol effeithiol (yn cael ei gefnogi gan gyllid ESF ambell waith), lle mae wedi ei sefydlu, a hynny er mwyn cydymffurfio â rhyw gyfarwyddeb ganolog annisgwyl. Nid oes gennym amgylchedd sy’n arwain at ddefnydd effeithiol o ESF i wella gwasanaethau cyhoeddus.

 

 

A gredwch fod y prosiectau amrywiol sy’n cael eu hariannu drwy gronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru yn rhoi gwerth am arian?

Mae’n amhosibl dweud. Er mwyn rhoi ateb gwrthrychol i’r cwestiwn hwn mae angen gwybodaeth am gost cynhyrchu pob cynnyrch (e.e. nifer y busnesau a gynorthwywyd) a’r canlyniad (e.e. nifer y swyddi gros a grëwyd). Nid yw’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd. Mae WEFO yn cyhoeddi’r costau a gyllidebwyd ar gyfer prosiectau, ond nid yw’r gwir gostau na’r cynnyrch a’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi tan ar ôl i’r prosiectau gael eu cwblhau. 

 

Mae gwybodaeth am gostau a chynnyrch/canlyniad ar gael ar gyfer pob Blaenoriaeth yn y ddwy raglen Gydgyfeirio, ond nid yw’n bosibl gwneud cymhariaeth uniongyrchol o reidrwydd gan fod y rhan fwyaf o’r prosiectau’n dal heb gael eu cwblhau, felly mae’r cynnyrch/canlyniadau’n debygol o fod yn is ar hyn o bryd o’u cymharu â’r costau. O ganlyniad, rhaid bod yn ofalus wrth geisio defnyddio data wedi’u cyhoeddi i ffurfio casgliadau ynglŷn â gwerth am arian.

 

Er hyn, mae lle i fod yn hyderus bod y prosiectau Cydgyfeirio sy’n cael eu cyflawni yn cynnig gwerth am arian. Y gwir amdani yw bod WEFO yn mynd ati’n ofalus iawn yn ystod y broses werthuso i sicrhau bod y prosiectau sy’n cael arian ERDF neu ESF yn cynnig gwerth boddhaol am yr arian. Yn eu tro, pan fo noddwyr prosiectau’n caffael contractwyr i gyflawni eu prosiectau bydd gwerth am arian (ynghyd ag ansawdd y ddarpariaeth) yn un o’r ystyriaethau y rhoddir sylw iddynt wrth benderfynu pa gontractwr i’w gaffael. Felly, mae’r angen i sicrhau gwerth am arian yn ystyriaeth bwysig i bawb sy’n ymwneud â chyflawni prosiectau Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Credwn fod pob un o brosiectau’r Undeb Ewropeaidd sy’n cael ei gyflawni gennym ni’n cynnig gwerth am arian i’r trethdalwyr ond rydym yn wyliadwrus o hyd, a lle bo arbedion effeithlonrwydd posibl yn cael eu nodi, maent yn cael eu gweithredu.

 

Dylai’r Pwyllgor gofio nad yw mesur gwerth am arian yn broses syml: yn aml iawn mae’n costio mwy i ddarparu rhai mathau o brosiectau mewn ardaloedd gwledig nag mewn canolfannau trefol. Mae angen ystyried y cwsmeriaid hefyd. Er enghraifft, er mwyn darparu gweithgareddau hyfforddi i droseddwyr ifanc neu bobl anabl bydd angen cymarebau uwch rhwng staff a chyfranogwyr (a chostau unedol uwch o ganlyniad) na phe bai gweithgaredd tebyg yn cael ei ddarparu i grwpiau llai bregus. O ganlyniad, mae’n debyg na fydd cymariaethau syml o gostau unedol gwahanol brosiectau yn ddilys gan na fydd y rhesymau dilys hyn dros amrywiad mewn costau unedol yn cael eu hystyried.

 

Un elfen o’r gwaith sy’n arwain at lawer iawn o gostau diangen yw’r broses o baratoi’r hawliad a’i archwilio. Gadewch i ni fod yn glir – nid oes a wnelo hyn â pha mor effeithlon y mae prosiectau’n cael eu cyflawni – mae’r cyfan yn gysylltiedig â’r broses o hawlio’r cyllid gan WEFO. Mae natur gydweithredol llawer o’r prosiectau Cydgyfeirio’n golygu bod un sefydliad yn hawlio cyllid yr Undeb Ewropeaidd gan WEFO ar ran nifer o rai eraill. Mae hyn yn golygu bod pob sefydliad cyflawni’n cyflwyno hawliadau i’r sefydliad arweiniol, a’r hawliadau hyn wedyn yn cael eu dwyn ynghyd i greu un hawliad i WEFO. Er mwyn hawlio gwariant, rhaid cael tystiolaeth lawn o’r llwybr papur ar gyfer pob trafodiad, o’r anfoneb i’r taliad o gyfrif banc y sefydliad. Yn aml iawn, mae hyn yn golygu llungopïo tudalennau ar dudalennau o bapur, sydd i gyd yn gorfod cael eu coladu, ac yna’u cludo i leoliad arall lle maent yn cael eu gwirio a’u casglu gyda hawliadau eraill. Mae rhai sefydliadau arweiniol (ar sail dehongliad llym o ganllawiau Swyddfa Archwilio Cymru) yn mynnu bod pob copi’n cael ei ardystio fel copi cywir o’r gwreiddiol, sy’n golygu bod uwch swyddog yn arwyddo pob llungopi. Mae hyn yn wastraff gwarthus ar adnoddau cyhoeddus. Mae’n eironig mai’r hyn sydd wedi’i achosi yw’r dybiaeth fod cydweithredu bob amser yn arwain at arbedion effeithlonrwydd.

 

 

A oes gennych bryderon ynghylch sut y defnyddir y gronfa arian cyfatebol a dargedir? A oes gennych bryderon ynghylch defnyddio gwariant adrannol Llywodraeth Cymru fel arian cyfatebol? Pa effaith y credwch y mae toriadau yn y sector cyhoeddus wedi’i chael (ac y gallant ei chael) ar argaeledd arian cyfatebol y sector cyhoeddus? 

Nid ydym wedi ymwneud llawer ag arian cyfatebol a dargedir ac nid ydym wedi bod yn ei dderbyn. Cawn yr argraff nad yw wedi cael ei gydgysylltu’n dda â’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yr oedd i fod i’w cefnogi. Ceir proses ymgeisio a gwerthuso ar wahân gan swyddogion mewn adrannau gwahanol o Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar feini prawf gwerthuso gwahanol i’r rhai a oedd yn berthnasol i’r Cronfeydd Strwythurol. Nid yw’n addas o gwbl i brosiectau sydd â bylchau cyllido cymharol fach. Mae hyd yn oed WEFO fel pe bai wedi cael trafferthion gyda’r gronfa arian cyfatebol a dargedir: o’n profiad ni, roedd yn well gan WEFO gynnig cynnydd yn y gyfradd ymyrryd ERDF na gwneud cais i’r gronfa arian cyfatebol a dargedir.

 

Prin iawn yw’r enghreifftiau o ddefnyddio gwariant adrannol Llywodraeth Cymru fel arian cyfatebol y gwyddom amdanynt, ac eithrio, wrth gwrs, yn achos prosiectau Cronfeydd Strwythurol sy’n cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru. Dau achos o’r fath oedd y prosiectau atal llifogydd yn Abergwaun a Threfdraeth. Nid oes gennym unrhyw bryderon gwerth sôn amdanynt yn yr ychydig achosion hyn.

 

Mae toriadau’r sector cyhoeddus wedi effeithio ar yr arian cyfatebol sydd ar gael gan y sector cyhoeddus, ac mae’n debyg mai dim ond gwaethygu a wnaiff yr anhawster hwn. Bydd llywodraeth leol, wrth reswm, yn awyddus i roi blaenoriaeth i wasanaethau statudol, a chan mai dim ond ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn rhwymedigaethau statudol y gellir defnyddio Cronfeydd Strwythurol, mae’n ymddangos yn anorfod y bydd y wasgfa arian cyfatebol cyhoeddus yn fwy hyd yn oed na’r wasgfa cyllid sector cyhoeddus yn gyffredinol. O ganlyniad, mae gwir angen dewis arall effeithiol a hygyrch, â digon o adnoddau i’w gefnogi, yn lle arian cyfatebol a dargedir.

 

 

Pa mor effeithiol y bu Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru o ran monitro a gwerthuso effaith prosiectau?

Gwerthuso yw un o’r agweddau cryfaf ar weithrediad y rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol. Mae’r gofyniad yn ymwneud â gwerthusiad parhaus a gyflwynwyd yn Rheoliadau’r Cronfeydd Strwythurol ar gyfer 2007-2013 wedi caniatáu i WEFO gynnal rhaglen gynhwysfawr o werthusiadau o wahanol agweddau ar y rhaglenni. Yn ychwanegol at hyn, mae WEFO wedi dewis edrych ar ddulliau cadarnach o werthuso effaith, er enghraifft mae wedi defnyddio grwpiau rheoli mewn dau arolwg a gwblhawyd yn ddiweddar, sef Arolwg yr ESF o’r Bobl a Adawodd 2010 ac Arolwg Busnes yr ERDF, sydd wedi darparu asesiad gwrthffeithiol da, a thrwy hynny wedi caniatáu gwerthusiad cadarnach o’r gwerth ychwanegol a ddarperir gan ymyriadau Cronfeydd Strwythurol nag a oedd yn bosibl cyn hynny.

 

Yn yr un modd, credwn fod y ffaith ei bod yn ofynnol i bob prosiect gwblhau gwerthusiad (yn cael ei wneud gan gontractwr arbenigol annibynnol fel arfer) yn cynnig cyfle gwirioneddol i wella gwaith adfywio yng Nghymru. Mae’r cyfle hwn yn deillio o agor perfformiad prosiectau Cronfeydd Strwythurol i werthusiad beirniadol a thrwy wneud hynny nodi nid yn unig beth sydd wedi gweithio (neu sydd heb weithio), ond pam y mae wedi gweithio, i bwy y mae wedi gweithio, ac ym mha amgylchiadau y mae wedi gweithio. Mae lle i gredu y byddai prosiectau adfywio’r dyfodol yn cael eu dylunio a’u gweithredu’n well fyth pe bai’r gwersi hyn yn cael eu dysgu. Yr unig anfantais wrth gwrs yw cost gwerthuso, sy’n gost sylweddol.

 

Yn anffodus, ni allwn fod mor gadarnhaol ynglŷn â’r ffordd y mae’r rhaglenni wedi cael eu monitro. Gwelwyd rhai agweddau da, yn fwyaf arbennig y ffaith fod dangosyddion monitro wedi cael eu diffinio’n gliriach o’r dechrau, er bod y broses o is-rannu dangosyddion yn gymhleth iawn ac yn un y mae angen ei rhesymoli. Credwn nad oes digon o adroddiadau’n cael eu cyflwyno am rai dangosyddion, a hynny’n aml gan ei bod yn anodd cael y dystiolaeth benodol sydd ei hangen i gefnogi’r dadansoddiad manwl hwn. Yn ychwanegol at hyn, mae’n ymddangos i ni nad yw pob noddwr (na phob gwerthuswr o ran hynny) wedi deall sut i ddefnyddio’r dangosyddion a beth yw’r cysylltiad rhyngddynt (er enghraifft, y cyswllt rhesymegol rhwng dangosyddion cynnyrch a dangosyddion canlyniad). Credwn ei bod yn hanfodol bod hyfforddi ymgeiswyr a noddwyr, ynghyd â chefnogaeth barhaus gan y timau SET, yn hanfodol er mwyn i’r holl brosiectau gynhyrchu gwybodaeth fonitro o safon uchel.

 

Rhaid i ni fod yn feirniadol hefyd o’r diffyg defnydd a wneir o wybodaeth fonitro gan WEFO. Rhaid i brosiectau gyflwyno gwybodaeth fanwl iawn i WEFO, ond mae’n ymddangos mai dim ond er mwyn paratoi adroddiadau ar lefel gymharol uchel i’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni neu i roi manylion cyswllt buddiolwyr unigol i werthuswyr y mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio. Nid yw’r addewidion o wybodaeth fonitro ar gyfer defnydd cyhoeddus byth yn cael eu gwireddu – yn fwyaf diweddar, y gronfa ddata ar wefan WEFO, y bu cymaint o frolio arni, na fydd yn adrodd am gynnyrch yn awr nes bydd y prosiectau wedi cael eu cwblhau (dim tan 2015 i lawer). Mae hyn yn siom enfawr, yn enwedig o ystyried y gwaith rhagorol a wnaethpwyd gan WEFO wrth gyflawni rhaglenni 2000-2006. 

 

Yn fwyaf arbennig, mae diffyg gwybodaeth fonitro fanwl ar unrhyw lefel ofodol is na Gorllewin Cymru a’r Cymoedd neu Ddwyrain Cymru, yn annerbyniol yn ein barn ni. Ar hyn o bryd, y cyfan sydd ar gael yw gwybodaeth lefel uchel ar gyfer dangosyddion ar lefel awdurdodau unedol, ond heb unrhyw ddadansoddiad o gwbl. Mae gan awdurdodau lleol, fel cyrff wedi’u hethol yn ddemocrataidd sydd â dyletswydd statudol i hybu lles economaidd eu hardaloedd, ddiddordeb dilys mewn cael gwybodaeth fanwl ar y lefel hon. Mae ei hangen, er enghraifft, er mwyn deall a oes angen heb ei ddiwallu am fathau penodol o ymyriadau ar lefel leol, pwynt y byddwn yn dychwelyd ato isod. Yr hyn sy’n gwneud y diffyg gwybodaeth hwn yn fwy o rwystredigaeth, yw’r ffaith fod y dadansoddiad o gynnyrch a gyflwynir i WEFO gan bob prosiect yn cynnwys dadansoddiad yn ôl ardaloedd awdurdodau unedol. 

 

 

A oes gennych bryderon ynghylch y gallu i gynnal y gweithgareddau a’r gwaith a gyflawnir drwy brosiectau a ariennir yn ystod cylch cyfredol y cronfeydd strwythurol y tu hwnt i 2013?

Mae contractau noddwyr prosiectau yn nodi ei bod yn ofynnol iddynt sicrhau bod asedau sy’n cael eu creu gan ddefnyddio Cronfeydd Strwythurol yn cael eu defnyddio ar gyfer y dibenion a gymeradwywyd am bum mlynedd o’r dyddiad y daw’r prosiectau i ben, ac mae hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn yng nghyswllt buddsoddiadau cyfalaf o leiaf. 

 

Ni ellir cyfyngu effeithiau prosiectau ESF i ardal y rhaglen, a hynny’n syml iawn oherwydd y bydd pobl sydd wedi cael sgiliau a chymwysterau drwy brosiectau ESF, os yw’n bosibl, yn symud i ble bynnag y gallant gael y budd economaidd mwyaf o’u sgiliau newydd. O ganlyniad, gallai buddsoddiad Cydgyfeirio ESF yn y pen draw fod o fudd i Gaerdydd a Dwyrain Cymru, os yw pobl yn gadael Sir Benfro ac yn cael gwaith yno. Efallai y byddant yn symud ymhellach, i Lundain neu rywle arall yn y DU, i Aelod-wladwriaethau eraill yr UE neu hyd yn oed y tu allan i’r UE, a pha fudd y mae Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn ei gael wedyn?

 

Oherwydd hyn, os yw buddsoddiad ESF yn mynd i arwain at ddatblygu economaidd cynaliadwy yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, rhaid iddo gael ei ategu gan fuddsoddiad ERDF sylweddol, er mwyn creu swyddi da yn ardal y rhaglen. Yn ein barn ni, rhaid i bob un o’r partïon barhau i fuddsoddi mewn sgiliau, ond mae angen iddynt ddyblu eu hymdrechion er mwyn creu swyddi da os ydym am gael y budd mwyaf o raglenni’r UE yng Nghymru.

 

Mae pwynt arall y byddem yn hoffi ei wneud yng nghyswllt cynaliadwyedd, sef bod rhai prosiectau sy’n dechrau cael eu dirwyn i ben yn awr yn cyflawni gweithgaredd sydd ei angen o hyd ac, o ganlyniad, gellid disgwyl y byddai prosiectau tebyg yn cael eu cefnogi dan raglenni 2014-20. Dylai WEFO geisio nodi prosiectau o’r fath (ac nid prosiectau Llywodraeth Cymru yn unig) a dod o hyd i adnoddau i’w cynnal am weddill cyfnod rhaglen 2007-13, hyd yn oed pe bai hynny’n golygu bod lefel y gweithgaredd yn is. Bydd hyn yn helpu i leihau’r perygl o golli staff sydd wedi cael eu hyfforddi cyn diwedd prosiect, sy’n amharu’n fawr iawn ar y gallu i gyflawni’r rhaglen, ac yn sicrhau drwy hynny nad oes bwlch rhwng rhaglenni. Mae hyn bob amser yn broblem yn y cyfnod rhwng cyfnodau rhaglennu, a dylai pob parti fod yn gwneud popeth posibl i geisio datrys y broblem hon. Pe bai hyn yn llwyddiannus, byddai hefyd yn caniatáu i gnewyllyn o brosiectau sydd wedi cael eu profi fod yn barod i gael eu cymeradwyo a’u rhoi ar waith yn gynnar dan raglenni 2014-20.

 

 

Beth yw eich profiad chi o gael gafael ar Gyllid Strwythurol Ewropeaidd?

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cael gafael ar Gyllid Strwythurol Ewropeaidd o’r rhaglenni Cydgyfeirio drwy ffyrdd amrywiol, gan gynnwys y canlynol:

 

Wrth gwrs, mae profiad pawb yn wahanol, a byddai’n bosibl cael trafodaeth faith am bob profiad. Yr agwedd bwysicaf yw profiad y sefydliad (a’r unigolyn yn aml) sy’n gyfrifol am ymdrin â’r broses o wneud cais neu dendro. Fel sefydliad sydd â swyddogion eithriadol o brofiadol ym mhob mater sy’n gysylltiedig â’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, rydym wedi teimlo’n rhwystredig wrth ymdrin â sefydliadau sy’n newydd i’r Cronfeydd, neu â swyddogion nad ydynt yn gyfarwydd â’r gofynion. Yn aml iawn, rydym wedi canfod ein hunain mewn sefyllfaoedd lle cafodd cyngor neu gyfarwyddiadau eu rhoi i ni, a ninnau’n gwybod eu bod yn anghywir neu wedi dyddio, ac yn gorfod eu cywiro. Hoffem bwysleisio hefyd nad yw prosiectau Llywodraeth Cymru wedi eu heithrio o hyn. Felly, mae rhai prosiectau, ac rydym yn cynnwys rhai o gynlluniau mawr Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn, nad ydynt bob amser wedi cael eu rheoli’n dda. 

 

Fodd bynnag, i ryw raddau, mae’r sefyllfa hon yn anorfod. Mae’n afresymol disgwyl y gall rhywun fod yn arbenigwr ar unwaith ar rywbeth mor gymhleth â’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Yn sicr, bydd y bobl dan sylw’n gwneud yn well yn y dyfodol oherwydd byddant yn dysgu o’u camgymeriadau. Yn syml iawn, mae ar bobl angen amser i ddysgu o brofiad. Dyma pam y mae’n hanfodol cael rhyw fecanwaith sy’n caniatáu i’r rhai mwyaf profiadol rannu eu gwybodaeth â’r rhai hynny nad ydynt mor gyfarwydd â’r Cronfeydd. Y mecanwaith hwn, yn rhaglenni 2007-13, oedd y Timau Ewropeaidd Arbenigol sy’n cael eu darparu gan lywodraeth leol, WCVA a rhai swyddogion profiadol yn adrannau Llywodraeth Cymru. Mae Timau Ewropeaidd Arbenigol, ar y cyfan, wedi gweithio’n dda a gallant gyfeirio at nifer o enghreifftiau go iawn lle maent wedi helpu prosiectau i ddatrys problemau a fyddai fel arall wedi arwain at oedi. Mae’n hanfodol bod Timau Ewropeaidd Arbenigol, neu rywbeth tebyg iawn, yn bodoli mewn unrhyw raglenni Cronfeydd Strwythurol gan yr UE yn y dyfodol.

 

 

A yw’r sector preifat yng Nghymru wedi ymgysylltu’n ddigonol â’r broses o gael gafael ar Gyllid Strwythurol Ewropeaidd?

Ydyw. Rôl y sector preifat yw creu cyfoeth a dylai’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ei gwneud hi’n haws i’r sector preifat greu cyfoeth, ond nid yw’n dilyn o reidrwydd y dylai’r sector preifat fod yn gwneud cais i WEFO er mwyn gweithredu prosiectau. Mae achosion pan ddylai’r sector preifat fod yn gweithredu prosiectau: roeddem yn falch o allu helpu cwmni Tidal Energy Ltd i gael arian o’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i ddatblygu ei brosiect DeltaStream, ond eithriadau yw achosion o’r fath ac ni ddylent fod yn ddigwyddiadau arferol. Mae’n well bod cyrff rhyngol, yn enwedig y rhai hynny sydd ag arbenigedd mewn Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, yn cael gafael ar y Cronfeydd ac yna’n eu cymhwyso er budd y sector preifat. Mae gan awdurdodau lleol rôl bwysig yma gan fod ganddynt brofiad helaeth o wneud defnydd effeithiol o’r Cronfeydd hyn a hefyd gan fod ganddynt ddiddordeb statudol mewn helpu i ddatblygu’r sector preifat. 

 

Mae rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2007-13 wedi cynyddu cyfranogiad y sector preifat drwy sicrhau proses gaffael gystadleuol ar gyfer y gweithgaredd sy’n cael ei ariannu. Mae hyn yn gymwys ac yn briodol, ac mae’n agwedd yr ydym yn ei chefnogi.

 

 

Yn 2009, llwyddodd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i negodi cynnydd yng nghyfraddau ymyrryd y rhaglenni gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer dwy raglen cydgyfeiriant Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2010, nododd y Pwyllgor Menter a Dysgu fod Asiantaeth Datblygu Rhanbarthol y De-orllewin wedi negodi cyfraddau ymyrryd uwch gyda’r Comisiwn Ewropeaidd. A yw Cymru’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r cyfraddau ymyrryd uwch hyn?

 

Mae’r cwestiwn fel pe bai’n argymell rhagor o gynnydd yn y cyfraddau ymyrryd. Mae un anfantais fawr yn gysylltiedig â chyfraddau ymyrryd uchel. Wrth i’r gyfradd ymyrryd gynyddu mae maint y rhaglen gyfan yn lleihau, gan fod gwerth ariannol buddsoddiad yr UE yn aros yr un fath. Felly, er bod angen llai o arian cyfatebol wrth i’r cyfraddau ymyrryd gynyddu, ni fydd rhaglen yn cyflawni cymaint ag y byddai’n ei gyflawni â chyfraddau ymyrryd isel, gan gymryd bod digon o arian cyfatebol ar gael er mwyn tynnu holl adnoddau’r UE i lawr. 

 

Byddai defnyddio cyfraddau ymyrryd uwch fyth yn andwyol i’r rhaglenni yn awr oherwydd byddai rhai prosiectau sydd yn y broses o gael eu datblygu ar hyn o bryd yn mynd yn rhy gostus.

 

Sylwadau pellach

Cyflawni drwy gaffael: rhai canlyniadau anfwriadol sy’n effeithio ar effeithiolrwydd rhaglenni

Mae Atodiad 1 i’r llythyr gan y Pwyllgor sy’n gwahodd tystiolaeth ar gyfer yr Ymchwiliad hwn yn nodi, “Yn ôl Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, defnyddir dull mwy strategol ar gyfer darparu’r cronfeydd yn y cylch hwn o raglenni...”. Fodd bynnag, mae tensiwn mewn gwirionedd rhwng caffael contractwyr i gyflawni prosiect a’r dull strategol hwn. Byddem yn dadlau bod caffael yn tanseilio’r dull strategol a bod angen adfer cydbwysedd rhwng y ddau ddimensiwn hyn. Mae’r dull strategol y cyfeiria WEFO ato yn seiliedig ar ddwy brif nodwedd, yn gyntaf dogfennau “Fframwaith Strategol”, ac yn ail y ffaith fod y rhan fwyaf o’r prosiectau’n brosiectau mawr iawn. Mae’r prosiectau mawr hyn mewn gwirionedd yn cael eu cyflawni drwy gaffael cyflenwyr, a dyma lle mae’r dull strategol yn cael ei golli. Y broblem yw bod y gwasanaethau cyflawni’n cael eu caffael heb ystyried yr ardal na’r poblogaethau y bydd y prosiect Cydgyfeirio’n cael ei gyflawni iddynt yn y pen draw. Yn aml iawn, mae tendrau’n cael eu hasesu gan bobl nad ydynt yn adnabod yr ardal nac yn gwybod pa weithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal yno. Nid yw’r meini prawf a ddefnyddir i asesu tendrau yn aml yn ystyried tystiolaeth gyfredol o angen lleol neu fylchau mewn darpariaeth, a chan ei bod mor anodd darganfod beth y mae Cydgyfeirio’n ei ariannu ar lefel leol, yn aml iawn nid yw’r rhai sy’n cyflwyno tendrau’n gwybod y gallai eu cynnig fod yn dyblygu gweithgaredd arall. Yn Sir Benfro mae hyn wedi arwain at ddarparu prosiectau tebyg iawn, yn agos iawn at ei gilydd, yr un pryd. Nid yw hyn yn arwydd o ddull strategol, ac yn sicr ni ellir ei ystyried yn ddefnydd effeithiol o Gronfeydd Strwythurol. 

 

Mae hyn yn digwydd oherwydd bod yr unig ganllawiau strategol (y Rhaglenni Gweithredol a’r Fframweithiau Strategol) ar lefel mor uchel fel nad ydynt mewn gwirionedd o unrhyw fudd wrth benderfynu a oes angen ymyriadau ar raddfa gymharol fechan, sydd wedi’u targedu’n lleol ac sy’n aml am dymor byr. Yn waeth na hynny, yn anaml iawn y cyfeirir atynt mewn Gwahoddiadau i Dendro am y gwaith o gyflawni prosiectau Cronfeydd Strwythurol.

 

Yn y dyfodol, mae angen i reolwyr prosiectau fod yn well am ddewis y tendrau sy’n mynd i’r afael orau â’r gwir anghenion yn yr ardaloedd hynny lle maent yn bwriadu gweithredu, ac er mwyn gwneud hyn mae angen cryfhau’r dull strategol. Yn fwyaf penodol, yr hyn sydd ei angen yw ffordd o wneud penderfyniadau strategol ynglŷn â’r lefel leol. Nid oes arnom angen yr holl strategaethau a oedd gennym dan Amcan 1, ond mae arnom angen pedwar peth. 

 

Yn gyntaf, mae arnom angen strategaethau lleol o ansawdd da sy’n nodi’n glir beth yw’r anghenion a’r cyfleoedd yn yr ardal y maent yn ymwneud â hi. Yn ail, mae angen i bob tendr gyfeirio at y strategaethau lleol hyn er mwyn cyfiawnhau’r ymyriadau y maent yn eu cynnig. Yn drydydd, wrth asesu tendrau, mae angen ystyried i ba raddau y maent yn rhoi sylw i anghenion strategol lleol y ceir tystiolaeth ohonynt, ynghyd ag agweddau eraill megis ansawdd y tendr a’r gost. Yn olaf, mae arnom angen gwybodaeth fonitro dda ar lefel leol fel bod pawb yn gweld yn iawn wrth i’r rhaglenni newydd ddod yn eu blaenau pa brosiectau sy’n cael eu gweithredu ym mhle, ac i ba raddau y mae sylw’n cael ei roi i broblemau mewn ardaloedd lleol er mwyn osgoi problemau yn ymwneud â gormod o ddarpariaeth neu ddim digon o ddarpariaeth. 

 

Effeithiolrwydd modelau cyflawni newydd: JESSICA

Cyflwynodd rhaglenni 2007-13 ddulliau newydd o ddefnyddio’r Cronfeydd, offerynnau peiriannu ariannol yn fwyaf penodol, gan gynnwys JEREMIE a JESSICA. Deellir y bydd y rhain yn nodwedd gryfach fyth o’r rhaglenni newydd a fydd yn cael eu gweithredu o 2014 ymlaen. Nid oes gennym ni ein hunain unrhyw wybodaeth i’n galluogi i benderfynu a yw’r datblygiadau pwysig hyn wedi bod yn effeithiol o gwbl. Nid oes prosiectau JESSICA wedi cael eu cymeradwyo eto, heb sôn am gael eu cwblhau, ac nid oes gennym wybodaeth o gwbl ynglŷn â’r defnydd sydd wedi’i wneud o JEREMIE. O ganlyniad, edrychwn ymlaen at ddarllen casgliadau’r Pwyllgor ynglŷn ag effeithiolrwydd JESSICA a JEREMIE.

 

Targedu gofodol canolog

Roedd y Rhaglen Weithredol Cydgyfeirio yn targedu ei hadnoddau ar gyfer adfywio ffisegol tuag at 44 o ardaloedd difreintiedig. Gwnaethpwyd hyn ar sail methodoleg a oedd yn defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i nodi’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, yna chwyddo’r ardaloedd hyn mewn ffordd digon ffwrdd â hi i lefel yr anheddiad perthnasol, a oedd mewn un achos yn ddinas gyfan ac mewn un arall yn dref wledig fechan. Cafodd y rhestr ganlyniadol o aneddiadau difreintiedig ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Monitro Rhaglenni, ond ni chafodd yr awdurdodau lleol a fyddai’n gorfod cyflawni’r adfywio ffisegol angenrheidiol eu cynnwys o gwbl yn y broses dargedu. O ganlyniad, nid oedd y broses ganolog hon o dargedu adnoddau tuag at ardaloedd lleol yn manteisio ar unrhyw wybodaeth leol am yr ardaloedd dan sylw. Roedd yn ddigon hawdd gweld beth fyddai’r canlyniad: cafodd ardaloedd a oedd eisoes wedi cael cymorth o Gronfeydd Strwythurol yr UE,  ac y gellid disgwyl eu bod yn gwella, (yn ogystal â mentrau eraill fel Cymunedau yn Gyntaf), eu targedu unwaith eto, tra roedd ardaloedd eraill a oedd yn dioddef o amddifadedd cynyddol yn cael dim buddsoddiad o gwbl.

 

Mae’n briodol bod y Pwyllgor Monitro Rhaglenni a WEFO yn pennu fframwaith er mwyn sicrhau bod cyllid a fwriadwyd ar gyfer ardaloedd difreintiedig yn cyrraedd yr ardaloedd hynny, ond rhaid i’r targedu ei hun gael ei wneud ar lefel leol sydd â’r wybodaeth i sicrhau bod y defnydd gorau’n cael ei wneud o’r cyllid.

 

Gobeithiwn y bydd y Pwyllgor yn ystyried y sylwadau hyn. Byddem yn barod i egluro neu roi rhagor o wybodaeth am unrhyw bwyntiau os oes angen.

 

Yr eiddoch yn gywir

 

 

 

 

 

Dr Steven Jones

Cyfarwyddwr Datblygu



[1] Rydym yn ymwybodol bod y targedau ar gyfer y rhaglen Gydgyfeirio ESF yn cael eu hailnegodi gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd i adlewyrchu newidiadau sydd eu hangen er mwyn rhoi sylw i’r Rhaglen Waith sy’n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth y DU, ymysg pethau eraill. Y targedau diwygiedig arfaethedig sydd gennym mewn golwg wrth wneud sylwadau yma.

[2] Gweler yr ymateb i’r cwestiwn ar fonitro a gwerthuso.